Menu

Amdanom ni

Menter newydd gan Hybu Cig Cymru (HCC) yw Porc.Wales. Mae’r wefan yn galluogi cynhyrchwyr a manwerthwyr i hybu porc o foch sy’n cael eu geni a’u magu yng Nghymru.

Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o Porc.Wales ymhlith defnyddwyr a masnachwyr, er mwyn cynyddu’r galw am eich cynnyrch.

Yn ogystal â chyfeiriadur o gynhyrchwyr a manwerthwyr, bydd y wefan yn rhoi rhesymau dros brynu porc o Gymru, ryseitiau, gwybodaeth am faeth ac astudiaethau achos yn cynnwys ffermwyr, cigyddion a chogyddion.

Dyma gyfle gwych i hybu eich cynhyrchion ac ymuno â chymuned ar-lein sy’n ymroddedig i hybu porc o Gymru.

Close