Fe ofynnon ni i bobl leol sy’n sgrifennu blogiau am fwyd rannu eu hoff seigiau porc gyda ni. Fe fyddwn ni’n rhoi sylw i’w ryseitiau nhw, sy’n defnyddio amrywiaeth o ddarnau o gig a dulliau coginio, er mwyn eich ysbrydoli a’ch annog i drio pethau gwahanol gyda phorc blasus o Gymru.
Dyma Kacie Morgan, sy’n ysgrifennu blog o’r enw The Rare Welsh Bit a dyma’i rysáit hi ar gyfer golwythion porc.
Golwythion porc gyda chrwst chorizo a shibwns
Mae’r golwythion porc hyn gyda chrwst chorizo a shibwns yn berffaith ar gyfer noson oer, hydrefol. Mae’r chorizo’n blasu’n fyglyd ac yn crensian o dan y dannedd ac mae’r sudd sy’n dod ohono’n blasu’n fendigedig yn y porc. Gweinwch gyda thatws newydd, llysiau gwyrdd ffres a grefi blasus i wneud pryd sylweddol fydd yn plesio’r teulu cyfan.
Medaliwn o gig o ben asen lwyn porc yw golwyth ac mae’n sownd i’r asgwrn, sydd yn ychwanegu blas wrth goginio.
Cynhwysion (digon i 4)
- 4 golwythen borc (tua 250g yr un)
- 12 owns selsig Chorizo, wedi ei dorri’n giwbiau bach
- 1 llwy fwrdd olew olewydd (neu chwistrelliad o olew fel Flora/Fry Light)
- 2 gwpanaid mawr o shibwns wedi eu torri’n sleisys tenau
- 1 llwy fwrdd siwgr bras
- 1 llwy fwrdd finegr
- 1 llwy fwrdd perlysiau cymysg
- Halen môr a phupur cymysg wedi eu malu’n ffres
Dull
- 1.Cynheswch y gril i wres canolig a chynheswch y ffwrn i 375°F/190°c.
- 2.Ffriwch y chorizo mewn olew olewydd ar wres canolig tan ei fod yn grisp, yna tynnwch e o’r badell gyda llwy dyllog a’i osod i un ochr.
- 3.Ychwanegwch y shibwns i’r badell ffrio a’u coginio am tua phum munud, gan droi’n barhaus tan eu bod wedi carameleiddio.
- 4.Ychwanegwch y siwgr a’r finegr a throi am tua dwy funud tan fod y siwgr yn toddi a’r finegr yn anweddu.
- 5.Ychwanegwch y perlysiau cymysg, y chorizo, yr halen a’r pupur mâl. Rhowch dro i’r cyfan a thynnwch bopeth oddi ar y gwres.
- 6.Rhowch y golwythion porc ar ddysgl gwrth-wres yn y ffwrn a rhowch o dan y gril am 3-4 munud ar bob ochr.
- 7.Yn ofalus, adeiladwch grwst o chorizo a shibwns ar ben y golwythion porc a rhowch y cyfan yn y ffwrn am 25-30 munud, tan fod popeth wedi coginio.
Gan Kacie Morgan – The Rare Welsh Bit