Menu

Golwython porc wedi’u pobi mewn paprica mwg

Mae golwython porc yn ddarnau gwych o gig - yn frau, amlbwrpas ac yn barod i’w bwyta o fewn munudau.

Mae’r cig yn cario’i flas yn dda ac felly gall y sbeisys iawn weddnewid y darn digon di-nod hwn yn wledd sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd.

Mae’r pryd hwn yn edrych ac yn blasu’n hyfryd ac mae’n hawdd iawn ei wneud. Munud neu ddau sydd angen i’w baratoi ac yna gallwch roi’ch traed i fyny wrth i’r cig farineiddio yn y gymysgedd anfarwol o flasau melys, sbeislyd a myglyd.


Ar gyfer 4

Amser coginio – tua 1 awr


Cynhwysion

  • 4 o olwython porc lwyn heb fawr o fraster
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o baprica melys myglyd
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o siwgr brown ysgafn
  • Tun 400g o domatos wedi’u torri’n fân
  • 300ml (½ peint) o passata
  • 10ml (2 lwy de) o bowdr tsili
  • 1 afal coginio, wedi’i bilio a’i ddeisio


Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i Nwy 4, 180ºC, 350ºF.
  2. Gosodwch ddwy haen o ffoil yn y tun rhostio.
  3. Cymysgwch y paprica, siwgr, tomatos, passata, powdr tsili ac afal. Tywalltwch y gymysgedd i’r tun. Ychwanegwch y golwython a’u trochi yn y saws.
  4. Coginiwch am tua 45 munud - 1 awr tan fydd y cig yn frau a meddal.
  5. Gweinwch gyda reis cymysg wedi’i stemio, saws mwg a dail salad tymhorol.
Close