Menu
#

Lwyn Porc wedi'i Rhostio Gyda Stwffin Jin Eirin a Chnau Ffrengig

Efallai mai twrci yw cig traddodiadol y Nadolig, ond mae porc yn newid blasus os ydych chi’n croesawu pobl acw dros yr ŵyl. Mae’r pryd hwn o lwyn borc wedi’i rhostio yn cyfuno llugaeron, jin eirin duon a chnau Ffrengig i roi blas Nadoligaidd go iawn.

#

Digon i: 4-6

Amser Coginio: 30 munud am bob 450g/½kg (1 pwys) a 30 munud ychwanegol (canolig)*


Cynhwysion:

  • 1kg (2.2 bwys) Darn lwyn Porc ar yr asgwrn heb lawer o fraster
  • 50g (2 owns) Llugaeron sych
  • 60ml (4 llwy fwrdd) in eirin
  • 50g (2 owns) Cnau Ffrengig
  • Stwffin:
  • 450g (1 pwys) Cig selsig porc (tua 6 selsig)
  • 100 (4 owns) Briwsion bara - wedi'u gwneud o hen dorth fara neu dorth ffrwythau
  • Pinsiad o sbeisys cymysg
  • Pinsiad o sinamon


Dull:

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i Farc Nwy 4, 180°C, 350°F.
  2. Rhowch y llugaeron mewn powlen fach gyda'r jin eirin a gadewch iddynt fwydo am 30-60 o funudau.
  3. Sychwch y tu allan i'r cig a'i sgorio'n ddwfn â chyllell finiog.
  4. Rhowch y cig selsig, y briwsion bara, y sbeisys a'r cnau Ffrengig mewn powlen. Cymysgwch hwy'n dda.
  5. Yn ofalus, gwnewch doriad dwfn, mawr yn y darn o'r cig sydd â'r rhan fwyaf o fraster arno (nid drwy lygad y cig ond tuag at yr ymyl lle mae llawer o fraster yn y cig).
  6. Ychwanegwch y llugaeron i'r stwffin a'u cymysgu'n dda.
  7. Gwthiwch y stwffin i mewn i'r twll hwn. Gallwch rolio unrhyw stwffin sydd ar ôl yn beli mawr a'u coginio ynghyd â'r cig am tua 20 munud.
  8. Pwyswch y cig sydd wedi'i stwffio a chyfrifwch yr amser coginio*
  9. Brwsiwch y cig ag olew, ychwanegwch binsiad o halen a'u rhwbio i mewn i'r braster. Rhowch y cig ar resel mewn tun rhostio a'i rostio heb gaead mewn ffwrn sydd wedi'i chynhesu ymlaen llaw, am yr amser a gyfrifwyd.
  10. Tynnwch y cig o'r ffwrn a'i adael i sefyll am tua 10 munud cyn ei dorri.
  11. Cadwch y suddion coginio i wneud y grefi ac ychwanegwch ychydig o jin eirin i'r grefi wrth ei goginio.


Gweinwch y cyfan gyda'r peli stwffin (os gwnaethoch rai gyda'r stwffin a oedd yn weddill), pannas wedi'u rhostio a'ch hoff drimins traddodiadol - Nadolig Llawen!

Close