Lwyn porc wedi’i stwffio gyda stwffin Dwyreiniol
Mae porc yn ddelfrydol ar gyfer cinio Sul – ond mae llawer mwy y gallwch ei wneud gyda darn da o lwyn!
Mae’r rysáit hon yn gofyn am dipyn o ymdrech ond bydd yn talu ar ei chanfed a chewch bryd sy’n toddi yn eich ceg ac yn llawn blasau Dwyreiniol, heb foddi blas hyfryd y porc.
Ar gyfer 4-6
Amser coginio – 30 munud yr 450g/½kg (1lb) ynghyd â 30 munud (canolig)
Cynhwysion
- Lwyn 1kg (2.2lb) o borc heb fawr o fraster nac asgwrn (mae darnau o’r goes neu’r ysgwydd yn ddelfrydol)
- Halen
- Olew
Ar gyfer y stwffin
- 4 selsigen borc, gyda’r croen wedi’i hollti a’r cig selsig wedi’i dynnu (tua 200g)
- 15ml (1 llwy fwrdd) o fêl
- 10ml (2 lwy de) o sbeis Tsieineaidd
- 2 sibolsyn, wedi’u sleisio
- 1 eirinen, heb y garreg ac wedi’i thorri’n fân
- 50g (2 owns) o friwsion bara
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i Nwy 4-5, 180ºC, 350ºF.
- Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y stwffin mewn powlen fawr a’u cymysgu’n dda.
- Sychwch du allan y cig a’i ricio’n dda gyda chyllell finiog.
- Yn ofalus, gwnewch doriad mawr yn narn mwyaf brasterog y cig. Rhowch y stwffin i mewn i’r twll – gallwch rholio unrhyw stwffin sydd dros ben yn beli a’u coginio o amgylch y cig am tua 30 munud.
- Pwyswch y darn o gig er mwyn gweithio allan ei amser coginio.
- Rhowch rywfaint o olew a halen ar y cig a’u rhwbio i mewn i’r braster. Gosodwch y cig ar resel mewn tun rhostio a’i rostio’n agored mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am yr amser a amcangyfrifwyd.
- Gweinwch gyda thatws melys stwnsh a pak choi crensiog wedi’i ffrïo.