Defnyddiwch bestl a mortar neu ddysgl a llwy bren i falu gyda’i gilydd 3 clof o arlleg, pupur du a 6 deilen o saets ffres, wedi’u torri’n fras.
Ychwanegwch at hyn 1 lemwn, y sudd a’r croen a 30ml (2 lwyaid bwrdd) o olew olewydd.
Rhowch 4 golwythen borc drwchus goch mewn powlen fawr ac ychwanegwch gymysgedd y marinad, gan ei thaenu dros y golwython i gyd. Gorchuddiwch y bowlen a’i rhoi yn yr oergell am oddeutu 2 awr.
Dip Menyn: Mewn powlen fach, rhowch 50g (2 owns) o fenyn, sudd a chroen ½ lemwn, 30ml (2 lwyaid bwrdd) o gaws Parmesan wedi’i gratio a 5 deilen saets ffres. Rhowch y gymysgedd yn y popty meicrodon am funud neu nes iddi doddi. Trowch y gymysgedd. Coginiwch y golwython ar ridyll, gradell neu farbeciw sydd wedi’i gynhesu’n barod am 6-8 munud bob ochr.
Awgrym ar gyfer Gweini: Gweinwch y golwython gyda detholiad o lysiau bach y tymor e.e. pys yn eu codau, asbaragws, india corn bach, ffenigl bach i’w dipio – naill ai’n amrwd neu wedi’u plymio i dd ^wr berw, a chwlffyn o fara crystiog.
Porc y ffordd hon
dewch o hyd i’ch porc agosaf gan gyflenwr yng Nghymru a Chanfod Porc Lleol