Asennau breision mango ac oren gyda thalpiau llysiau
Amser - 2 awr
Digon I – 4 – 6
Cynhwysion
1.8kg (4 pwys) o asennau breision porc
30ml (2 lwy fwrdd) o siytni mango
5ml (1 llwy de) 5 sbeis Tsieineaidd
450ml (¾ peint) sudd mango ac oren
1 mango ffres, wedi’i dorri’n dalpiau o gwmpas y garreg
Talpiau llysiau:
1 celeriac, wedi’i blicio a’i dorri’n sglodion mawr
3 tysen felys, wedi’u plicio a’u torri’n sglodion mawr
3 moronen, wedi’u plicio a’u torri yn sglodion mawr
30ml (2 lwy fwrdd) o olew llysiau
Sut i’w goginio
Cynheswch y popty ymlaen llaw i Farc Nwy 4, 180˚C, 350˚F.
Leiniwch dun rhostio gyda haen ddwbl o ffoil a rhoi’r asennau ynddo.
Yna, cymysgwch y siytni mango, y sbeisys, y sudd mango ac oren a’i dywallt dros yr asennau.
Yna, rhowch ffoil yn llac o amgylch yr asennau, gorchuddiwch gydag ail ddarn o ffoil a choginio am tua 1½ awr, neu nes bod y cig yn dyner a meddal. Pan fydd y cig yn dyner a meddal tynnwch y ffoil a choginio am 30 munud arall.
Tra bydd yr asennau’n coginio rhowch yr holl lysiau mewn tun rhostio ar wahân, mewn un haen, ac ysgeintio olew olewydd drostynt. Coginiwch nhw yn y popty am tua 45-60 munud neu nes byddant yn feddal ac euraidd.
Pan fydd yr asennau’n barod tynnwch nhw o’r popty, a thywallt y sudd i sosban fechan a’i ferwi am 10 munud neu nes bydd wedi lleihau ychydig.
Pentyrrwch yr asennau ar blât mawr i’w rannu gan rhoi’r saws ar eu pennau a’u gweini gyda’r talpiau llysiau.
Porc y ffordd hon
dewch o hyd i’ch porc agosaf gan gyflenwr yng Nghymru a Chanfod Porc Lleol