Menu
#

Tarten Latis Porc, Pupur a Chaws Gafr

Digon i: 6-8

Amser Coginio: Tua 30 munud

CYNHWYSION:

  • 225g (8 owns) Ffiled canol lwyn Porc, wedi'i thorri'n giwbiau bach
  • 2 Sleisen o facwn cefn wedi'u halltu a'u mygu, wedi'u torri
  • 500g Crwst brau
  • Halen a phupur
  • 100g (4 owns) Jar o bupurau melys wedi'u grilio, eu draenio a'u torri'n fras
  • 1 Afal bwyta, wedi'i greiddio a'i sleisio
  • 100g (4 owns) Caws gafr

DULL:

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i Farc Nwy 6, 200°C, 400°F.
  2. Rholiwch ddwy ran o dair o'r crwst a leiniwch waelod ac ochrau tin fflan ag ymyl rhychiog 24cm.
  3. Taenwch y porc a'r cig moch ar y crwst gwaelod. Ychwanegwch y pupurau, a'r afal, a rhowch y caws gafr mewn darnau dros y gymysgedd.
  4. Rholiwch y crwst sydd ar ôl allan i wneud y latis a'i dorri yn stribedi tua 10 x 1cm.
  5. Gorchuddiwch y pastai â'r stribedi mewn patrwm delltog a gwasgwch ochrau'r stribedi. Brwsiwch ag wy a llaeth i'w sgleinio.
  6. Rhowch y pastai mewn ffwrn sydd wedi'i chynhesu ymlaen llaw a choginiwch am tua 30 munud nes bod y crwst yn euraidd.
  7. Gadewch iddo oeri rhywfaint cyn ei dorri - mae'n flasus yn oer neu'n boeth.

Ryseitiau Tebyg

Close