Menu
#

Risotto porc gyda phwdin gwaed, cennin a phys

Amser – 35 munud

Digon i – 3 -4

Cynhwysion

  • 225g (8 owns) o ganol lwyn ffiled porc wedi’i dorri’n sleisys tenau
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew olewydd
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 2 genhinen fach, wedi’u golchi a’u sleisio’n denau
  • 225g (8 owns) o reis risotto arborio
  • Pupur du
  • 750-900ml (1¼-1½ peint) stoc porc
  • 75g (3 owns) o bwdin gwaed wedi’I dorri’n gwibiau bach
  • 150g (5 owns) o bys wedi rhewi
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o fasil a mintys ffres, wedi’u torri’n fras
  • Caws Parmesan wedi’i gratio
  • Sut i’w goginio

    1. Cynheswch ychydig o olew mewn sosban fawr, ychwanegwch y sleisys porc, garlleg a chennin a choginio am tua 2-3 munud.
    2. Pan fyddant wedi brownio ychwanegwch y reis, yr halen a phupur a chymysgu’r cyfan.
    3. Pan fydd y cyfan wedi cymysgu’n dda ychwanegwch y rhan fwyaf o’r stoc poeth a chymysgu’n dda – cadwch ychydig o’r stoc rhag i’r risotto sychu gormod yn nes ymlaen.
    4. Rhowch gaead ar y sosban a gadael y risotto i ffrwtian am tua 15-20 munud. Gallwch ychwanegu’r stoc ychwanegol os yw’r risotto yn mynd yn rhy sych.
    5. Pan fydd y risotto wedi coginio ychwanegwch y pwdin gwaed a’r pys a chynhesu’r cyfan drwyddo.
    6. Rhowch berlysiau ffres a chaws parmesan ar ei ben a’i weini.

    Close