Menu
#

Tagine Porc gyda Bricyll, Syltanas ac Oren

Digon i: 4 | Amser Coginio: 2½ awr


Cynhwysion

  • 1 llwy fwrdd o olew ar gyfer ffrio
  • 650g o wddf neu ysgwydd porc, wedi'i deisio'n ddarnau mawr, gan dorri'r braster i ffwrdd
  • 2 winwnsyn, wedi'u torri
  • 2 ewin garlleg, wedi'u malu
  • 2 llwy fwrdd o Ras el Hanout
  • 400g o domatos tun, wedi'u torri'n ddarnau
  • 600ml o stoc porc neu lysiau
  • 75g o syltanas
  • 75g o fricyll sych, wedi'u torri'n chwarteri
  • 400g o ffacbys tun, wedi'u draenio a'u rinsio
  • 100g o gwscws
  • 15g o naddion almonau wedi'u tostio
  • 1 oren, y croen a'r sudd
  • Dyrnaid o ddail mintys ffres, wedi'u torri'n fras

Dull

Yn addas i'w goginio'n araf ar yr hob neu yn y popty. Os byddwch yn defnyddio'r popty, ewch ati i'w chynhesu ymlaen llaw i 180°C/Marc Nwy 5.

  1. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y porc wedi'i ddeisio hyd nes y bydd wedi brownio. Codwch y cig o'r badell.
  2. Yn yr un badell ffrio, ffriwch y winwns a'r garlleg hyd nes y byddant wedi'u brownio'n ysgafn. Ychwanegwch y cig yn ôl at y badell.
  3. Ychwanegwch y sbeis gan ei droi am rai munudau. Yna, ychwanegwch y tomatos, y stoc, y syltanas a'r bricyll. Arllwyswch y cymysgedd i sosban â chaead os byddwch yn ei fudferwi ar yr hob, neu i ddysgl dal gwres os byddwch yn ei goginio yn y popty.
  4. Coginiwch am 1½-2 awr hyd nes y bydd y cig yn dyner.
  5. Codwch y caead ac ychwanegwch y cwscws, y ffacbys a'r oren. Parhewch i'w goginio hyd nes y bydd yr holl hylif wedi cael ei amsugno – tua 20 munud.
  6. Gweinwch gyda phinsiad o naddion almon.

Close