Koftas Porc Sbeislyd gyda Couscous
Cynhwysion
- 450g (1lb) o friwgig porc coch
- 15ml (1 llwy fwrdd) o gymysgedd sbeis Ras-el-hanout
- 1 ewin garlleg, wedi'i wasgu
- 50g (2oz) o ddatys, wedi'u torri
- 25g (1oz) o gnau pistasio, wedi'u torri
- 2 sibolsyn, wedi'u torri'n fân
- Sgiwerau bambŵ, wedi'u gwlychu
‘Couscous' gemog:
- 100g (4oz) o couscous
- 15ml (1 llwy fwrdd) o gymysgedd sbeis Ras-el-hanout
- ¼ ciwcymbr, wedi'i giwbio
- 2 sibolsyn, wedi'u sleisio
- 20 llusen
- 30ml (2 lwy fwrdd) o hadau pomgranad
- 30ml (2 lwy fwrdd) o fintys ffres, wedi'i dorri
- 30ml (2 lwy fwrdd) o bersli ffres, wedi'i dorri
- Ychydig o olew olewydd
Dull
- Rhowch y briwgig porc, y sbeis, y garlleg, y datys, y cnau, y sibols a halen a phupur mewn powlen fawr.
- Rhannwch y gymysgedd yn 8 a'u mowldio'n siâp selsig. Rhowch y 'selsig' ar y sgiwerau bambŵ wedi'u gwlychu, gan eu gwasgu ychydig o amgylch y sgiwer.
- Gosodwch nhw ar blât, eu gorchuddio a'u rhoi yn yr oergell am 15-20 munud i oeri. Tynnwch nhw o'r oergell a'u rhoi o dan gril wedi'i gynhesu ymlaen llaw a'u coginio am ryw 12 munud nes maent yn euraidd ac wedi coginio drwyddynt.
- I wneud y couscous: Rhowch y couscous a'r sbeis mewn powlen fawr a gorchuddiwch gydag oddeutu 200ml o ddŵr berwedig – gorchuddiwch y bowlen a'i gadael am ryw 5 munud nes bod yr hylif wedi'i amsugno. Ychwanegwch yr holl gynhwysion sy'n weddill a chyfuno'r cyfan yn dda. Ychwanegwch ychydig o halen a phupur a'r olew olewydd.
Awgrym ar gyfer gweini
Gweinwch y koftas gyda phentwr mawr o'r couscous.