Menu
#

Cyri Cnau Coco Coch Sbeislyd

Digon i: 2-4

Amser Coginio: Tua 10 munud

CYNHWYSION:

  • 225g (8 owns) O ffiled canol lwyn porc, wedi'i thorri'n sleisys tenau
  • 5ml(1 llwy de) Olew
  • 30ml (2 lwy fwrdd) Past cyri Thai coch
  • 200ml Can o laeth cnau coco
  • 10ml (2 llwy de) Saws soi
  • 50g (2 owns) Brocoli coesau meddal
  • 2 Bylb Pak Choi wedi'u sleisio
  • 4 Shibwnsyn, wedi'u sleisio
  • 50g (2 owns) Pysgnau hallt
  • 1 Sudd a chroen un leim
  • Dail coriander ffres i weini

DULL:

  1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr anlynol/wok, ychwanegwch y porc a'i frownio. Ychwanegwch y past cyri Thai coch a'i gymysgu'n dda i orchuddio'r cig. Ychwanegwch y llaeth cnau coco a'r soi a mudferwch y cyfan am 5-6 munud nes bod y cig yn frau.
  2. Ychwanegwch y brocoli a'r pak choi a choginiwch am funud neu ddwy. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a'u gweini gyda nwdls reis sydd wedi'u cymysgu â tsilis sydd wedi'u torri'n fân, shibwns a chroen leim.

Close