Menu
#

Stêcs Porc gyda Saws Pupur a Madarch Hufennog

Digon i: 2 | Amser Coginio: 10 munud

Cynhwysion

  • 2 stecen goch lwyn porc
  • 5ml (1 llwy de) grawn pupur cymysg, wedi eu gwasgu
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew
  • 1 ewin garlleg, wedi’i gwasgu
  • 100g (4oz) madarch cymysg
  • 75ml (5 llwy fwrdd) crème fraîche
  • 15ml (1 llwy fwrdd) basil ffres, wedi ei rhwygo
  • 15ml (1 llwy fwrdd) dil ffres, wedi ei rhwygo

Dull

  1. Gwasgwch y grawn pupur a gorchuddiwch y stêcs.
  2. Twymwch radell neu badell ffrio a choginiwch y stêcs porc am 2 – 4 munud.
  3. Ychwanegwch y garlleg a’r madarch a choginiwch am 4 – 5 munud arall.
  4. Ychwanegwch y crème fraîche, basil a’r dil.
  5. Twymwch yn araf am 1 -2 munud.
  6. Gweinwch gyda sbigoglys a thatws wedi ffrio.

Close