Telerau ac Amodau
Er mwyn cael eich cynnwys ar wefan Porc.Wales, mae'n rhaid i chi fod yn gwerthu porc o foch a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru. Bydd HCC yn cynnwys cynhyrchwyr a manwerthwyr ar wefan Porc.Wales os ydynt yn bodloni'r Meini Prawf canlynol:
Meini Prawf
- Rwyf yn cadarnhau fy mod yn gwerthu cig o foch a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru.
- Rwyf yn deall dim ond mai cynnyrch cymwys (h.y. cynnyrch o foch a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru) y gallaf ei gynnwys ar wefan Porc.Wales.
- Rwyf yn deall mai dim ond cynnyrch cymwys y gallaf ei hyrwyddo fel Porc.Wales. Lle bydd busnes yn gwerthu cynnyrch nad yw'n gymwys ochr yn ochr â Porc.Wales ar ei wefan neu ei safle ei hun, cyfrifoldeb y manwerthwr yw sicrhau bod y cynnyrch wedi'i labelu'n glir.
Caiff busnesau eu derbyn ar y cynllun yn ôl disgresiwn. Mae HCC, fel ceidwad brand Porc.Wales, yn cadw'r hawl i wrthod derbyn busnesau ar y cynllun.